Y Geiriadur
banner
geiriadur.bsky.social
Y Geiriadur
@geiriadur.bsky.social
Gair y dydd: cyllideb www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Sut effaith gaiff cyllideb y canghellor arnoch chi?
November 26, 2025 at 3:58 PM
Gair y Dydd: ffair geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... – ar ail ddiwrnod y Ffair Aeaf yn Llanelwedd. Mae’r enghraifft gynharaf o’r gair sydd yn y Geiriadur yn dod o waith Dafydd ap Gwilym yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. (Llun: S4C)
November 25, 2025 at 1:59 PM
Gair y dydd: GWLYB DOMEN geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... neu ‘gwlyb domen dail’: sef yn llythrennol, gwlyb fel pentwr o dail neu dom!
Dyma un o sawl ymadrodd lliwgar yn y Geiriadur i ddisgrifo rhywun neu rywbeth sy’n wlyb diferol? Beth ddywedech chi?
November 24, 2025 at 12:33 PM
Gair y Dydd: modrwyog www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Dyma droell fodrwyog sydd wedi ei gwneud o fodrwyau. Gall yr ansoddair gyfeirio at rywun sy'n gwisgo modrwyau, rhywbeth llawn modrwyau neu wedi ei addurno â modrwyau, neu gall gyfeirio at rywbeth fel gwallt sy'n hongian yn fodrwyau💍
November 21, 2025 at 2:31 PM
Gair y Dydd barf yr afr gochlas www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Planhigyn ac iddo wreiddiau bwytadwy, Tragopogon porrifolius
November 20, 2025 at 5:46 PM
Gair y dydd: geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... - dyma fwa seithliw'r enfys uwchben swyddfa'r Geiriadur.

Yn yr Oesoedd Canol credai pobl mai 3 neu 4 lliw oedd mewn enfys, fel yn yr ail ddyfyniad yn yr erthygl sy'n sôn am "enfys ... pedwar lliwawg". Ond dangosodd Isaac Newton bod 7 lliw!
November 19, 2025 at 8:54 AM
Gair y Dydd: moron gwynion geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Mae ‘moron’ yn fenthyciad o Saesneg Canol ‘moren’ (gwreiddiau) felly does dim syndod iddo gael ei ddefnyddio am foron cochion geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... a phannas.
November 18, 2025 at 1:57 PM
Gair y dydd: tŵr geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Yn y llun, gwelir tri o dyrau dinas Bologna yn yr Eidal, sy'n enwog am ei thyrau canoloesol, gyda dros ugain ohonynt yn dal i sefyll heddiw.
November 17, 2025 at 12:31 PM
Gair y Dydd sbectol www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Dyfais i gywiro golwg diffygiol neu i amddiffyn y llygaid, sef dwy lens mewn ffrâm sy’n gorffwys ar y trwyn ac a gedwir yn ei lle gan ddwy fraich am y clustiau. Mae'r gair yn fenywaidd fel arfer, h.y. y sbectol hon, sbectol goch.
November 13, 2025 at 4:40 PM
Gair y dydd: lle chwech www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., un o eiriau neu ymadroddion niferus y Gymraeg am ‘dŷ bach neu doiled’. Cymharer astyllen, cachdy, geudy, lle slei, pisty, prifai, tŷ bach.
November 12, 2025 at 12:18 PM
Gair y Dydd: cofeb geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... – dyma gofeb ryfel genedlaethol Cymru ym Mharc Cathays yng Nghaerdydd. Y dyddiad heddiw oedd dyddiad y cadoediad ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1918.
November 11, 2025 at 1:43 PM
Gair y dydd: cant geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Can mlynedd i heddiw ganwyd yr actor enwog Richard Burton ym Mhont-rhyd-y-fen.
November 10, 2025 at 1:08 PM
Gair y dydd: MORGLAWDD geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... sef clawdd neu wal yn ymestyn i’r môr i amddiffyn harbwr neu draeth rhag rhyferthwy’r tonnau.

Mae’n werth ymweld ag Aberaeron a cherdded ar hyd y morglawdd newydd sbon yno!
November 7, 2025 at 10:01 AM
Gair y dydd: DIHAREB geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., sef dywediad yn datgan doethineb mewn modd cryno a chofiadwy.

Roedd bri mawr ar gasglu diarhebion yn oes y Dadeni: dyma ddalen o’r llyfr “Diarhebion Cymraeg”, a gyhoeddodd William Salesbury tua 1575.

Beth yw eich hoff ddihareb chi?
November 6, 2025 at 10:25 AM
Gair y dydd: ufelyddiaeth, hen air am ‘dân gwyllt’ www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html....
November 5, 2025 at 1:41 PM
Gair y Dydd: dyddiadurwr geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Ar y dyddiad hwn yn 1691 y ganwyd William Bulkeley o’r Brynddu, Llanfechell, Ynys Môn. Gellir gweld ei ddyddiaduron (1734-1760), sy’n llawn gwybodaeth am fywyd ac agweddau’r cyfnod, ar lein bulkeleydiaries.bangor.ac.uk.
November 4, 2025 at 1:05 PM
Gair y dydd: tachwedd geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Mae'n fis Tachwedd, y mis du, ond a wyddoch am ystyron eraill y gair, megis 'lladdfa', 'diweddglo', 'drewdod', &c? Cymerwch olwg yn y Geiriadur.
November 3, 2025 at 12:37 PM
Gair y Dydd: cyhyraeth geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Dyma air arall am ysgerbwd, drychiolaeth ac ysbryd, ac am angladd neu gladdedigaeth lledrithiol (toulu). Gobeithio na chroeswch ei lwybr heno, ar noson Calan Gaeaf, ac na chlywch ei gri arswydus yn y nos, a ystyrid gynt yn rhagarwydd marwolaeth.
October 31, 2025 at 9:58 AM
Gair y Dydd ofer garu www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... trilliw, dauwynebog, caru'n ofer, Viola tricolor; y trilliw gwyllt, Viola arvensis.
October 30, 2025 at 9:46 AM
Gair y dydd: DYFALBARHAD geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., sef y dygnwch sydd yn ambell un i barhau neu i ddal ati gyda rhyw orchwyl, pan fo'r rhan fwyaf o'u cwmpas wedi rhoi'r gorau iddi.
October 29, 2025 at 8:23 AM
Gair y Dydd: ceiliog coed geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... – enw llai cyfarwydd ar geiliog ffesant. Ceir iâr goed hefyd am ffesant fenyw ond mae’r gair ffesant ei hun geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., rywfaint yn hŷn na’r ddau ac yn mynd yn ôl i’r bymthegfed ganrif.
October 28, 2025 at 1:54 PM
Gair y dydd: traffig geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Mae'n hanner tymor a llawer ohonoch yn mynd ar wyliau neu am drip efallai? Gobeithio na chewch eich dal mewn tagfa draffig!
October 27, 2025 at 1:05 PM
Gair y dydd: brensiach geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Brensiach annwyl! Brensiach y brain! Brensiach y bratiau! Dyma ebychiad sy'n mynegi syndod, yn debyg i 'mawredd'. Cyfaddasiad neu leddfiad ydyw ar lwon megis 'Brenin Annwyl' neu 'Brenin Mawr'.
Pa ebychiadau eraill ydych chi'n eu defnyddio?
October 24, 2025 at 10:33 AM
Gair y Dydd gwenithfaen www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Carreg galed, raeanol a chrisialaidd, ithfaen, gronynfaen, granet.

Gan Alan Mattingly, parth cyhoeddus commons.wikimedia.org/wiki/File:Pi...
October 23, 2025 at 9:00 AM
Gair y dydd: geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Ar ôl i ni newid yr awr yn sgil troi’r clociau’n ôl nos Sadwrn, bydd hi’n NOSI yn gynt bob dydd nes cyrraedd diwrnod byrraf y flwyddyn, tua 21 Rhagfyr.
Un cysur fydd yr awr ychwanegol a gawn yn y gwely fore Sul nesaf!
October 22, 2025 at 9:18 AM