Y Geiriadur
@geiriadur.bsky.social
200 followers 14 following 220 posts
Posts Media Videos Starter Packs
Pinned
geiriadur.bsky.social
Ap GPC ar iOS 18.4 wedi'i drwsio: Mae gwall a rwystrodd yr ap rhag llwytho dan iOS 18.4 ymlaen wedi'i drwsio. Rydym yn dal i weithio ar agweddau eraill ohono. Mae'r fersiwn newydd ar gael o App Store Apple. Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.
geiriadur.bsky.social
Gair y dydd: argae ‘gwrthglawdd a godir ar draws afon, &c., i ffurfio cronfa ddŵr neu i atal llifogydd’ www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html....
geiriadur.bsky.social
Croeso cynnes i Gyfeillion hen a newydd! Cysylltwch â [email protected] os hoffech fwy o wybodaeth #CyfeillionGPC
geiriadur.bsky.social
Gair y dydd: llygoden Ffrengig geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Tybed a oedd y lygoden fentrus yn gobeithio clywed ychydig o Ffrangeg ar y cae neithiwr gan rai o'r Belgiaid? Llygoden ffyrnig byswn i'n ei galw - beth yw eich enw chi?
geiriadur.bsky.social
Gair y dydd: galfanu geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Daw'r ferf o enw Luigi Galfani, meddyg, ffisegydd, biolegydd ac athronydd Eidalaidd a ddarganfu bod sbarc drydanol yn peri symudiad mewn cyhyrau coesau brogaed marw. Gwelir cofeb iddo mewn piazza sy'n dwyn ei enw yn ei ddinas gartref, Bologna.
geiriadur.bsky.social
Gair y Dydd: gras geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Yn ystod cyfnod y Diolchgarwch yn arbennig, dywedir gras, sef gweddi fer o ddiolch, neu ddweud bendith cyn neu ar ôl pryd o fwyd. Ar y dydd hwn yn 1900 y ganwyd W. D. Williams, awdur y gras isod ar ffurf englyn a adroddir cyn bwyta.
geiriadur.bsky.social
Gair y Dydd cysgadur www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Cysgwr, un sy’n cysgu neu’n hepian, dyn neu greadur swrth a chysglyd; creadur a gwsg y gaeaf gan ddeffro gyda’r gwanwyn.

Gan Yinan Chen, Parth Cyhoeddus commons.wikimedia.org/wiki/File:Gf...
Llun o ffosa (Cryptoprocta ferox) yn cysgu
geiriadur.bsky.social
Gair y dydd: CIGFRAN geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... aderyn ysglyfaethus, a ystyrir yn glyfar a doeth. Roedd yn aml yn cynnig cyngor i fardd mewn cerddi proffwydol, ac roedd yn un o’r tri aderyn (gyda’r garan a’r eryr) a brisid fwyaf yng nghyfraith Hywel Dda.
geiriadur.bsky.social
Gair y Dydd: pentan geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Eos y Pentan yw teitl un o’r storïau byrion doniol a ysgrifennwyd gan W. J. Griffith o’r Henllys Fawr ger Aberffraw a gyhoeddwyd yn Storïau’r Henllys Fawr (1938). Bu farw W. J. Griffith ar y dyddiad hwn yn 1931.
geiriadur.bsky.social
Gair y Dydd: bochgoch geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... - Ansoddair da a ddefnyddir yn aml i ddisgrifio plentyn iach a chanddo ruddiau cochion, neu am rywbeth a chanddo groen coch - fel yr afal. Digwydd y gair hefyd fel enw arall am yr egroesen a'r pabi coch.
geiriadur.bsky.social
Gair y Dydd: sgrwmp geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... - sef cawod drom o law. Rydym wedi profi sawl sgrwmp yn barod yr hydref hwn, gydag un arall ar y ffordd dros y penwythnos. Un enw arbennig am dywydd sgrympiog ar ddiwedd yr haf ac yn gynnar yn yr hydref yw sgrympiau codi tatws.
geiriadur.bsky.social
Gair y Dydd saeth www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Arf hirfain blaenllym, fel arfer o bren neu fetel, a saethir o fwa. Gair benthyg o'r Lladin sagitta.

Gan Gordon W. Powley, Parth cyhoeddus commons.wikimedia.org/wiki/File:Ar...
Doreen Roberts yn saethu â bwa
geiriadur.bsky.social
Gair y dydd: seiberdrosedd ‘gweithgarwch troseddol yn gysylltiedig â systemau cyfrifiadurol, y Rhyngrwyd, &c.’ www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html....
geiriadur.bsky.social
Gair y Dydd: tafal geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Mae sawl gair am y ddyfais hon, e.e. tafal, clorian, mantol, ond beth fyddwch chi’n ddweud? Mae hefyd yn enw ar yr arwydd yng nghylch y Sodiac yr adeg hon o’r flwyddyn.
geiriadur.bsky.social
Gair y Dydd aethnen www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Math o boplysen nodedig am ei dail crynedig, Populus tremula

Gan W.carter CC BY-SA 4.0 commons.wikimedia.org/wiki/File:Re...
Llun o ddail aethnen ar gangen
geiriadur.bsky.social
Gair y Dydd brithliw www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Amliwiog, amryliw, cymysgliw, ysmotiog, brychlyd

Gan Judgefloro CC0 1.0 Universal commons.wikimedia.org/wiki/File:23...
Llun o blanhigyn brith ei ddail
geiriadur.bsky.social
Gair y dydd: CYFATHREBU geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., o cyfathr- (fel yn cyfathrach ‘perthynas’) + -ebu (fel yn hebu, gohebu ‘siarad’, &c).
Gair cwbl anhepgor bellach a fathwyd yn 1959 gan J.E. Caerwyn Williams, un o sylfaenwyr @yganolfangeltaidd.bsky.social a chyn Olygydd Ymgynghorol @geiriadur
geiriadur.bsky.social
Gair y Dydd: tes Mihangel geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Ydy’r tywydd heddiw yn ddechrau cyfnod o dywydd braf o gwmpas gŵyl Fihangel yr wythnos nesaf, y 29ain o Fedi? ‘Tes bach cyn gaeaf’ yn enw hyfryd arall.
geiriadur.bsky.social
Gair y dydd: dŵr llwyd geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html...
Yn dilyn y glaw trwm dydd Sadwrn diwethaf, dyma beth rwy’n ei alw'n ddŵr llwyd. Oes gennych chi enw arall am lif trwm o'r fath?
geiriadur.bsky.social
Gair y dydd: gwledd geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... (yn yr ystyr ffigurol) - Rydym wedi cael gwledd o bapurau academaidd hynod o ddiddorol yn ystod cynhadledd Gorwelion @yganolfangeltaidd.bsky.social , gyda'r amrywiaeth o bynciau difyr yn cynnig digon inni gnoi cil arnynt.
geiriadur.bsky.social
Gair y Dydd dwrn www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Llaw wedi ei chau’n dynn, llaw, palf, pawen; hefyd y darn hwnnw o erfyn (fel cleddyf ayb) y gafaelir ynddo, carn, said, cnap neu fwlyn (drws)

Hawlfraint 2013 United States Air Force
Llun o'r Cadfridog Norton Schwartz â'i ddwrn yn yr awyr
geiriadur.bsky.social
Gair y dydd: deugain ‘pedwar deg’ www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., wrth i’r gynhadledd ‘Gorwelion’ agor i ddathlu deugain mlwyddiant sefydlu Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.
geiriadur.bsky.social
Gair y Dydd: ERYR geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... - Enw ac iddo ystyron ffigurol yn cynnwys 'arwr' a 'thywysog'. Ar y dydd hwn yn 1400, cyhoeddwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru. Chwiliwch am y gair 'prince' yn adran Saesneg y Geiriadur i ganfod y cyfoeth o enwau Cymraeg am dywysog.
geiriadur.bsky.social
Gair y dydd: argoel geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Dywedir bod gweld gwartheg yn gorwedd yn argoel neu'n arwydd o law - gwir oedd yn yr achos hwn!
geiriadur.bsky.social
Gair y dydd: gwe geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html...
A welsoch chi erioed y fath ryfeddod? Dyma rwydwaith main ysgafn a wëir gan y pryf copyn gan amlaf, ond mae'n debygol mai gwaith y lindys yw'r we hon! Mae'r gair 'lindyswe' yn y Geiriadur, ond 'cocoon' yw'r enw Saesneg arno.🐛
geiriadur.bsky.social
Gair y dydd: GORWEL, geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html...
Un o nifer fawr o fathiadau llwyddiannus gan y geiriadurwr William Owen Pughe (tua 1800).

Englyn Dewi Emrys i'r gorwel:

Wele rith fel ymyl rhod - o'n cwmpas,
Campwaith dewin hynod:
Hen linell bell nad yw'n bod
Hen derfyn nad yw'n darfod.