Newyddion S4C
banner
newyddion.s4c.cymru
Newyddion S4C
@newyddion.s4c.cymru
Y newyddion a’r straeon gorau o Gymru a'r Byd. Os oes gennych chi stori, cysylltwch â’r tîm 💻📱➡️ [email protected]
‘Rhywbeth 'da chi'n 'neud ydy amsar'

Bydd cynghorydd cymuned o Fôn yn cael ei ei wobrwyo am 70 mlynedd o wasanaeth i'w fro
December 15, 2025 at 8:35 PM
Mae dyn o Geredigion wedi pledio’n euog mewn cysylltiad â chyhuddiad o fridio cŵn anghyfreithlon a thwyll

Dyma Aled Scourfield gyda'r diweddaraf
December 15, 2025 at 8:21 PM
🎄🎅🏼 Ers pymtheg mlynedd, mae Lee Jones a'i wraig Angela o Abersoch yng Ngwynedd yn treulio tri mis yn addurno eu cartref ar gyfer y Nadolig.

Y bwriad ydi cynnig rhywbeth i'r gymuned leol i'w fwynhau, gan godi arian ar gyfer elusen Tŷ Gobaith yn y broses.
December 14, 2025 at 12:14 PM
🏅 ’Fi di ennill dwy bencampwriaeth y byd, fi ishe ennill y trydydd’

Mae’r ymladdwr cawell Brett Johns yn dweud nad yw'n ‘siŵr’ am ei ddyfodol wrth iddo anelu at fod yn bencampwr y byd am y trydydd tro.
December 13, 2025 at 1:17 PM
Mae dau ddyn o Gaerdydd wedi eu cyhuddo o gynllunio ymosodiadau terfysgol yn erbyn Mwslemiaid ac Iddewon yn y brifddinas

Fe wnaeth Rhys Edwards a Talan Gethin Vincent, y ddau yn 18 oed, ymddangos drwy gyswllt fideo yn ystod gwrandawiad yn llys yr Old Bailey ddydd Gwener
December 12, 2025 at 8:46 PM
📚❤️ ‘Mae’n galon y gymuned’

Mae rhieni a phlant dwy ysgol yn Sir Benfro wedi cyflwyno deisebau i'r cyngor sir yn erbyn cau eu hysgolion cynradd
December 12, 2025 at 7:23 PM
🎯 Bydd Pencampwriaeth Dartiau'r Byd yn dechrau ddydd Iau ym Mhalas Alexandra yn Llundain.

Pwy yw'r pedwar Cymro fydd yn cystadlu? Aled Lloyd-Biston sy'n egluro
December 11, 2025 at 8:20 AM
💻🎄 ’Dod â gwir ystyr y Nadolig yn ôl’

Mae menter ym Môn yn gobeithio rhoi gliniaduron i 100 o blant mewn llochesi Cymorth i Ferched yn y gogledd fel anrheg Nadolig
December 10, 2025 at 8:17 AM
Mae gwendidau wrth ymdrin â theuluoedd pan fo digwyddiadau difrifol yn codi, yn ôl adroddiad gan arolygwyr y gwasanaeth prawf.

Mae'r ddogfen hefyd yn nodi cynnydd enfawr mewn digwyddiadau difrifol.
December 9, 2025 at 8:55 PM
🫀 Mae clefyd cardiofasgwlaidd yn parhau'n 'argyfwng cynyddol' yng Nghymru, er y gwelliannau meddygol diweddar.

Dyna rybudd elusen Sefydliad y Galon sy'n dweud fod cyflyrau sy'n effeithio ar y galon, neu wythiennau gwaed, yn lladd bron i 10,000 o bobl y flwyddyn yng Nghymru.
December 9, 2025 at 5:34 PM