Geraint Thomas
banner
geraint-thomas.bsky.social
Geraint Thomas
@geraint-thomas.bsky.social
Gwr, tad, swyddog seneddol i Blaid Cymru. #annibyniaeth
Wrth gwrs yr ateb syml i hyn i gyd ydi osgoi’r miri ‘datganoli pwerau pellach’. Fyddai gemau ariannol fel hyn ddim yn ein llethu ni mewn Cymru annibynol.🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 5/5
December 4, 2024 at 1:09 PM
Byddai rhaid brwydro i gymryd un cam ymhellach na’r Alban, gan fynnu ein bod ni’n hawlio’r elw i gyd heb unrhyw ostyngiadau yn ein cyllideb. Byddai hon yn frwydr galed. 4/5
December 4, 2024 at 1:09 PM
Er hyn, mae buddiannau o’r drefn - mewn egwyddor mae unrhyw gynydd mewn gwerth yr Ystad yn mynd i fod o werth i’r Alban yn y tymor hir, ac -wrth gwrs, mae unrhyw gwestiynnau moesol am 25% o elw’r Ystad yn cyfrannu at bwrs y teulu brenhinol yn cael eu datrys. 3/5
December 4, 2024 at 1:09 PM
Mae Ystad y Goron wedi ei datganoli yn yr Alban, ond mae unrhyw elw yn cael ei gydbwyso gan ostyngiad yn y grant bloc o San Steffan. Ar hyn o bryd mae elw Ystad y Goron yn yr Alban yn cynhyrchu tua £10m mewn elw yn flynyddol, ond mae hwn yn cael ei dynnu o’r gyllideb grant. 2/5
December 4, 2024 at 1:09 PM
No problem Vern, I’ll enjoy my 5 minutes of false fame with glee whilst I can 😀😀😀
November 21, 2024 at 7:39 PM