@bethdimoyn.bsky.social
120 followers 77 following 42 posts
Posts Media Videos Starter Packs
bethdimoyn.bsky.social
Os y’ch chi’n teimlo’n isel weithie dros gyflwr yr iaith (fel fi) wel trowch at Beti a’i Phobl heno. Mae brwdfrydedd y siaradwr newydd Marcus Whitfield a’i waith diflino yn hybu’r iaith a chefnogi siaradwyr newydd eraill yn anhygoel. Gwerth gwrando ar @BBCRadioCymru am 6
bethdimoyn.bsky.social
Cwmni arbennig iawn heddi ar Beti a’i Phobl. Yr athrylith o gerddor a phianydd o Bentrebychan Cawn ei hanes o fod yn blentyn deg oed yn dwli ar Wagner ac yn diddanu ei gyd ddisgyblion yn ysgol IDHooson i chware yn rhai o neuaddau pwysica’r byd fel Carnegie Hall. Llŷr Williams @BBCRadioCymru
am 6
bethdimoyn.bsky.social
Nawr ar B a’i Phobl - Iwan Steffan. Mae’n ddyn ifanc talentog ac yn adnabyddus yn Lerpwl oherwydd ei waith ar y wê. Ond dyw e ddim heb ei broblemau ac mae’n eu trafod yn gwbwl agored. Mae’n dwli ar ei 2 chwaer gyda llaw! Fe ges i awren fach bleserus yn ei gwmni. Cewch chithe hefyd. @BBCRadio Cymru
Reposted
bethdimoyn.bsky.social
Artist a chyn berchennog siopau dillad. Mae ei hanesion am ei magwraeth ym Maldwyn yn llawn swyn. A’i phrofiad fel menyw fusnes ar ol cyfnod anodd yn bersonol yn agoriad llygad. Kathy Gittins ar @BBCRadioCymru am 6
Reposted
bethdimoyn.bsky.social
Fe ddaeth hwn/hon i ddweud helo heddiw. Mae’n ymwelydd cyson yn y nos ond fe fentrodd liw dydd! Croeso! Mor hardd ( ond dw i ddim yn cadw ieir!)
bethdimoyn.bsky.social
Fe ddaeth hwn/hon i ddweud helo heddiw. Mae’n ymwelydd cyson yn y nos ond fe fentrodd liw dydd! Croeso! Mor hardd ( ond dw i ddim yn cadw ieir!)
bethdimoyn.bsky.social
Artist a chyn berchennog siopau dillad. Mae ei hanesion am ei magwraeth ym Maldwyn yn llawn swyn. A’i phrofiad fel menyw fusnes ar ol cyfnod anodd yn bersonol yn agoriad llygad. Kathy Gittins ar @BBCRadioCymru am 6
bethdimoyn.bsky.social
Mae’r sgwrs heno yn agos at fy nghalon i gan mai Rhian Bowen-Davies, @comisiwnphcymru.bsky.social yw’r cwmni! Mae hi yn dda - ac yn benderfynol o fynd i’r afael â’r holl broblemau sy’n ein wynebu ni’r “oldies” y dyddie ma!
bethdimoyn.bsky.social
“Rockets, missiles and space flights”oedd hoff lyfr yr arbenigwr ar yr economi - Dr Eurfyl ap Gwilym - pan oedd yn blentyn ac fe lwyddodd i gynhyrchu “bom”!
Ddegawdau wedyn fe “fomiodd” Jeremy Paxman! Fe gewch glywed yr hanes i gyd ar Beti a’i Phobl ar @BBCRadio Cymru am 6
bethdimoyn.bsky.social
Am ysbrydoliaeth! Anhygoel! Colli ei goes yn 10 oed. Ennill medalau aur ac arian yn y gemau Paralympaidd. A nawr yn rhedeg busnes i helpu eraill sy wedi colli coes. Wir yn werth gwrando.
ttps://www.bbc.co.uk/programmes/m00291bf
BBC Radio Cymru - Beti a'i Phobol, Mark Williams
Beti George yn sgwrsio gyda Mark Williams, sylfaenydd cwmni LIMB-art.
www.bbc.co.uk
Reposted
welshbollocks.bsky.social
One of these is priceless and much sought after by wealthy Americans, the other is a Fabarge egg...
bethdimoyn.bsky.social
Diolch i chi am chwynnu’r pwll!
bethdimoyn.bsky.social
Mae’r cwmni yr wythnos hon ar Beti a’i Phobl yn siarad mor wych. Teleri Wyn Davies sy’n hyfforddi tim rygbi merched yn China. Yn ei hysbrydoli y mae’r cof am ei thad Brian “Yogi” Davies fu farw yn sgil damwain erchyll ar y cae rygbi. @BBCRadioCymru
bethdimoyn.bsky.social
Am y tro cynta ers blynyddoedd - cytuno â’r beirniaid!
newyddion.s4c.cymru
🎤 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Llongyfarchiadau mawr i Dros Dro - enillwyr Cân i Gymru 2025 gyda’r gân, Troseddwr yr Awr
#CiG2025
Reposted
newyddion.s4c.cymru
Cafodd ei weld ddiwethaf i’r de ddwyrain o Lyn Tegid

newyddion.s4c.cymru/article/26772
bethdimoyn.bsky.social
Yr arlunydd Gareth Parry yw’r cwmni heno ar Beti a’i Phobl. Ei berthynas a’i dad yn ei droi at fod yn rebel go wyllt yn ystod ei gyfnod yn y coleg ym Manceinion. Yna setlo a charl gyrfa leyddiannus iawn fel artist. Byddwch wrth eich bodd yn gwrando arno yn adrodd ei stori am 6 ar @BBCRadioCymru
bethdimoyn.bsky.social
Mae wir yn werth i chi wrando heno ar Beti a’i Phobl. @GeorgiaRuth yw’r cwmni sy mor ddiddorol yn adrodd ei hanes ac yn trafod y cyfnod heriol y llynedd pan gafodd ei gŵr Iwan (Cowbois Rh B)ei daro’n wael. @BBCRadioCymru am 6
bethdimoyn.bsky.social
is-lywydd Coca Cola yn gofalu am strategaeth a phobl dros Ogledd Ewrop ac Asia. Mae Glenda Jones Williams o Frynaman yn pinsio ei hun ei bod mewn swydd mor uchel yn un o’r cwmniau mwya yn y byd. A’i bod wedi cael canu’r gloch yng nghyfnewidfa stoc Efrog Newydd. Difyr?ydi glei!. @BBCRadio Cymru am 6
bethdimoyn.bsky.social
Nawr ar @BBCRadioCymru sgwrs ddifyr iawn gyda Daf James - awdur un o’r cyfresi drama mwya poblogaidd y llynedd - Lost Boys and Fairies. Mae’n siarad mor onest am heriau bywyd, am yr hwyl mae’n gael a’i deulu. Wir yn werth gwrando
bethdimoyn.bsky.social
Diolch. Treio anghofio!
cathaguamia.bsky.social
Penblwydd Hapus i ti Beti! 🥰
Reposted
menaievans.bsky.social
Cytuno’n llwyr, sgwrs hynod o deimladwy.